SL(5)314 – Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 19 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018 (Gorchymyn 2018) sy’n gymwys i blanhigion penodol a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu mewn Aelod-wladwriaeth arall neu yn y Swistir.  Mae’n ei gwneud yn ofynnol i fewnforiwr unrhyw blanhigion o’r fath hysbysu arolygydd awdurdodedig mewn ysgrifen am eu glaniad ddim hwyrach na phedwar diwrnod ar ôl dyddiad eu glaniad yng Nghymru.  Mae’r diwygiad yn estyn y gofynion hyn i blanhigion Olea europaea L.

Y weithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2018. Mae Gorchymyn 2018 yn gweithredu amryw o rwymedigaethau'r UE mewn perthynas â chyfraith iechyd planhigion. Bydd Gorchymyn 2018, fel y'i diwygir, yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl y diwrnod ymadael.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

5 Chwefror 2019